Pennaeth Llyfrgelloedd a'r Gweithlu
Lleoliad: Ledled Cymru
Gradd 7 £58,918 i £70,450
Parhaol. Llawn amser (croesewir ceisiadau gan bobl sy’n gweithio rhan-amser, fel rhan o rannu swydd neu sy’n gweithio’n llawn amser)
Pwrpas y swydd
Mae Is-adran Ddiwylliant Llywodraeth Cymru yn gweithredu fel asiantaeth datblygu amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd lleol, yn arwain ar ddiwylliant digidol ac yn rheoli'r berthynas rhwng Llywodraeth Cymru a'r tri chorff diwylliannol cenedlaethol (Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Amgueddfa Cymru a Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru). Ar hyn o bryd mae'r Is-adran hefyd yn cynllunio sut i fwrw ymlaen â'r Blaenoriaethau ar gyfer Diwylliant hyd at 2030 a fydd yn cynyddu ein buddsoddiad yn y sector diwylliant gan gynnwys llyfrgelloedd cyhoeddus. Mae'n gyfnod cyffrous i ymuno â’r tîm llyfrgelloedd a'r Is-adran ehangach, a chael y cyfle i ddylanwadu ar ddyfodol llyfrgelloedd cyhoeddus yng Nghymru.
Byddwch yn arwain tîm bach o bedwar neu bump o bobl ar ddatblygu a darparu polisi mewn perthynas â llyfrgelloedd cyhoeddus, yn cymryd cyfrifoldeb am ddyletswyddau statudol Deddf Llyfrgelloedd ac Amgueddfeydd Cyhoeddus 1964 gan gynnwys Safonau Llyfrgelloedd Gyhoeddus Cymru, goruchwylio'r Gwasanaeth Llyfrgell Digidol Cenedlaethol a datblygu gwasanaethau digidol, rheoli rhaglenni i hyrwyddo'r defnydd o lyfrgelloedd, a chefnogi datblygu a chyflawni prosiectau ar gyfer buddsoddi cyfalaf.
Hefyd, bydd gennych gyfrifoldeb am raglen ddatblygu traws-sector i hyfforddi a datblygu’r gweithlu. Dyma un o agweddau mwyaf gwerthfawr y gefnogaeth, mae'r Is-adran Ddiwylliant yn darparu ar gyfer y sector lleol, ac mae'n elfen sylweddol o'r Blaenoriaethau ar gyfer Diwylliant lle mae angen buddsoddi mewn sgiliau yn flaenoriaeth.
Tasgau Allweddol
Byddwch yn arwain tîm bach a phrysur o lyfrgellwyr a staff eraill i:
Polisi, datblygiad ac ymgysylltiad (65%):
- datblygu polisi a chymorth llyfrgell i lyfrgelloedd cyhoeddus yng Nghymru, a chefnogi'r gwaith o gyflawni'r Blaenoriaethau ar gyfer Diwylliant mewn perthynas â llyfrgelloedd
- goruchwylio deddfwriaeth a safonau perthnasol, gan gynnwys rheoli Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru a gweithredu y fframwaith 7 newydd
- cefnogi datblygiad gwasanaethau sy'n seiliedig ar System Rheoli Llyfrgelloedd Cymru gyfan, y Gwasanaeth Llyfrgell Ddigidol Genedlaethol a darpariaeth llyfrgell ddigidol
- arwain ar ymgysylltu â rhanddeiliaid, gan gynnwys cysylltu â rhanddeiliaid mewnol ac allanol a dylanwadu arnynt yng Nghymru, y DU ac yn ehangach.
Blaenoriaethau a phrosiectau (15%):
- arweinyddiaeth, goruchwylio neu gefnogaeth ar gyfer blaenoriaethau a phrosiectau y cytunwyd arnynt, gan gynnwys prosiectau cyfalaf, Cynllun Gweithredu Cymru Gwrth-hiliol, Cynllun Gweithredu LGBTQ+, Cynllun Gweithredu ar gyfer Anabledd, Cymraeg 2050 yn cefnogi'r berthynas â Llyfrgell Genedlaethol Cymru, fel partner cyflawni rheolaeth y Gwasanaeth Llyfrgell Genedlaethol Digidol o ddydd i ddydd o gyllidebau y cytunwyd arnynt, a goruchwylio neu reoli grantiau a chontractau y cytunwyd arnynt, gan gynnwys cynllunio prosiectau, adrodd yn rheolaidd, a rheoli risg
Gweithlu diwylliannol a datblygu sgiliau (10%):
- Gyda mewnbwn gan gydweithwyr a sefydliadau cymorth sector perthnasol, arwain ar raglen datblygu gweithlu a sgiliau'r adran ar gyfer y sectorau amgueddfeydd, llyfrgelloedd ac archifau lleol. Goruchwylio datblygiad polisi, gweithgareddau a phrosiectau i wella a datblygu'r gweithlu (gan gynnwys arweinyddiaeth, sgiliau proffesiynol a chefnogaeth i ymddiriedolwyr a gwirfoddolwyr) ar draws y sectorau, gan gynnwys cyflwyno, comisiynu a/neu ariannu hyfforddiant perthnasol a gweithgareddau datblygiad proffesiynol a sicrhau bod cymaint â phosibl o gynhwysedd ac amrywiaeth
Arweinyddiaeth, rheolaeth a datblygiad proffesiynol (10%):
- arwain y tîm llyfrgelloedd a datblygu'r gweithlu, bod yn rheolwr llinell ar ddau aelod o staff
- bod yn aelod o Dîm Arweinyddiaeth Diwylliant yr Is-Adran a bod â rôl arweinyddiaeth adrannol ar gyfer y swyddfa yr ydych wedi'ch lleoli ynddi, gan ddarparu cefnogaeth fugeiliol a chymorth arall i staff sydd ar yr un safle â chi ac o bosibl goruchwylio meysydd cyfrifoldeb neu flaenoriaethau eraill
- goruchwylio busnes y Llywodraeth gan gynnwys briffio a gohebiaeth, a chymorth gyda cyfathrebu'r sector llyfrgelloedd a'r gweithlu diwylliannol i ymateb yn effeithiol i faterion cyfredol, dod yn gynaliadwy a chynllunio'n effeithiol ar gyfer y dyfodol; a
- cael yr wybodaeth ddiweddaraf am eu datblygiad proffesiynol, gan gynnwys datblygiadau newidiol yn y sectorau o ganlyniad i gyfleoedd digidol a datblygiadau AI
Dyddiad cau: 29/04/2025, 16:00
========================================================================
Head of Libraries and Workforce
Location: Pan Wales
Grade 7 £58,918 to £70,450
Permanent, Full time (applications are welcome from people who work part time, as part of a job share or who work full time)
Purpose of post
The Welsh Government’s Culture Division acts as the development agency for local museums, archives and libraries, leads on digital culture and manages the relationship between the Welsh Government and the three national cultural bodies (National Library of Wales, Amgueddfa Cymru – National Museum Wales and the Royal Commission on the Ancient and Historical Monuments of Wales). The Division is also currently planning how to take forward the Priorities for Culture to 2030 which will increase our investment in the culture sector including public libraries. It is an exciting time to join the libraries team and wider Division, and to have the opportunity to influence and shape the future of public library provision in Wales.
You will lead a small team of four or five people on the development and delivery of policy in relation to public libraries, take responsibility for the statutory duties in the 1964 Public Library and Museums Act including the Welsh Public Library Standards, oversee the National Digital Library Service and the development of digital services, manage programmes to promote the use of libraries, and support the development and delivery of projects for capital investment.
Additionally, you will have responsibility for a cross-sector training and workforce development programme. This is one of most highly valued aspects of the support, the Culture Division provides for the local sector, and it is a significant strand of the Priorities for Culture where a need for investment in skills is a priority.
Key Tasks
You will lead a small and busy team of librarians and other staff to:
Policy, development and engagement (65%)
- develop library policy and support for public libraries in Wales, and support delivery of the Priorities for Culture in relation to libraries
- -oversee relevant legislation and standards, including the management of the Welsh Public Library Standards and implementation of new framework 7
- support the development of services based on the all-Wales Library Management System, National Digital Library Service and digital library provision
- leading on stakeholder engagement, including liaising with and influencing internal and external stakeholders in Wales, the UK and more broadly
Priorities and projects (15%)
- leadership, oversight or support for agreed priorities and projects, including capital projects, , Anti-racist Wales Action Plan, LGBTQ+ Action Plan, Disability Action Plan, Cymraeg 2050supporting the relationship with theNational Library of Wales, as the delivery partner for the National Digital \library Service day to day management of agreed budgets, and oversight or management of agreed grants and contracts
- project managing agreed projects and programmes, including project planning, regular reporting, and risk management
Cultural workforce and skills development (10%)
- With input from colleagues and relevant sector support organisations, lead on the division’s workforce and skills development programme for the local museums, libraries and archives sectors.Oversee policy development, activities and projects to improve and develop the workforce (including leadership, professional skills and support for trustees and volunteers) across the sectors, including delivering, commissioning and/or funding relevant training and professional development activities and ensuring inclusivity and diversity is maximised
Leadership, management and professional development (10%)
- lead the libraries and workforce development team, having line management for two members of staff
- be a member of the Divisional Culture Leadership Team and have a divisional leadership role for the office in which you are based, providing pastoral and other support for staff with whom you are co-located and potentially oversight of other areas of responsibility or priorities
- -oversee Government business including briefings and correspondence, and communications support the library sector and cultural workforce to respond effectively to current issues, become sustainable and plan effectively for the future; and
- keep up to date with their professional development, including changing developments in the sectors as a result of digital opportunities and AI developments.
Closing date: 29/04/2025, 16:00